[Evertype]  Alice's Adventures in Wonderland in Welsh Home
 
 

Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud
Alice’s Adventures in Wonderland in Welsh

Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud

By Lewis Carroll, translated into Welsh by Selyf Roberts

New edition, 2010. Illustrations by John Tenniel. Cathair na Mart: Evertype. ISBN 978-1-904808-46-6 (paperback), price: €12.95, £10.95, $15.95.

Click on the book cover on the right to order this book from Amazon.co.uk!

Or if you are in North America, order the book from Amazon.com!

“In that direction,” the Cat said, waving its right paw around, “lives a Hatter: and in that direction,” waving the other paw, “lives a March Hare. Visit either you like: they’re both mad.”   “Y ffordd acw,” ebe’r Gath gan chwifio’i phawen dde, “mae ’na Hetiwr yn byw; a’r ffordd acw,” gan chwifio’r llall, “mae ’na Sgwarnog Fawrth yn byw. Ewch i ymweld â’r naill neu’r llall: mae’r ddau yn wallgof.”
“But I don’t want to go among mad people,” Alice remarked.   “Ond does arna’ i ddim eisiau mynd i blith pobol wallgof,” ebe Alys.
“Oh, you ca’n’t help that,” said the Cat: “we’re all mad here. I’m mad. You’re mad.”   “O, fedrwch chi ddim peidio,” meddai’r Gath, “rydyn ni i gyd yn wallgof yma. Rydw i’n wallgof. Rydych chi’n wallgof.”
“How do you know I’m mad?” said Alice.   “Sut gwyddoch chi mod i’n wallgof?” gofynnodd Alys.
“You must be,” said the Cat, “or you wouldn't have come here.”   “Rhaid eich bod chi,” ebe’r Gath, “neu fuasech chi ddim wedi dod yma.”
Cat Clárach
Lewis Carroll is a pen-name: Charles Lutwidge Dodgson was the author’s real name and he was lecturer in Mathematics in Christ Church, Oxford. Dodgson began the story on 4 July 1862, when he took a journey in a rowing boat on the river Thames in Oxford together with the Reverend Robinson Duckworth, with Alice Liddell (ten years of age) the daughter of the Dean of Christ Church, and with her two sisters, Lorina (thirteen years of age), and Edith (eight years of age). As is clear from the poem at the begin­ning of the book, the three girls asked Dodgson for a story and reluctantly at first he began to tell the first version of the .story to them. There are many half-hidden references are made to the five of them throughout the text of the book itself, which was published finally in 1865.   Llysenw yw Lewis Carroll: Charles Lutwidge Dodgson oedd enw iawn yr awdur a oedd yn ddarlithydd mewn Mathemateg yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Cychwynnodd Dodgson y stori ar 4 Gorffennaf 1862, pan aeth ar daith mewn cwch rhwyfo ar afon Tafwys yn Rhydychen gyda’r Parchedig Robinson Duckworth, Alice Liddell (deng mlwydd oed), merch Deon Coleg Eglwys Crist, a chyda’i dwy chwaer, Lorina (tair blwydd ar ddeg oed), ac Edith (wyth mlwydd oed). Fel sy’n amlwg o’r gerdd ar ddechrau’r llyfr, gofynnodd y tair merch i Dodgson adrodd stori, ac o’i anfodd i gychwyn dechreuodd adrodd fersiwn cyntaf y stori iddynt. Ceir llawer o gyfeiriadau hanner cuddiedig i’r pump ohonynt drwy gydol testun y llyfr ei hun a gyhoeddwyd o’r diwedd yn 1865.
Selyf Roberts produced an abridged and rather formal translation in 1953 which nearly thirty years later in 1982 he felt needed to be replaced by a full-length fresh translation in a somewhat more natural style. This is a new edition of Selyf Roberts’ 1982 Welsh translation, freshly typeset and con­taining John Tenniel’s illustrations. In preparing this edition, minor alterations have been made to the spelling and syntax to conform with current Welsh practice.   Cynhyrchodd Selyf Roberts drosiad Cymraeg talfyredig a ffurfiol braidd yn 1953. Yn 1982, bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, teimlai’r angen i’w ddisodli â throsiad llawn o’r newydd mewn arddull ystwythach. Ar­graffiad newydd yw hwn o gyfieithiad Roberts o 1982, wedi’i gysodi o’r newydd ac yn cynnwys lluniau John Tenniel. Wrth baratoi’r argraffiad hwn, gwnaethpwyd mân newidiadau i’r orgraff a’r gystrawen i gydymffurfio ag arferion cyfoes.
In places italics and exclamation marks have been restored to reflect Carroll’s emphatic use of them.   Adferwyd teip italig ac ebychnodau yma ac acw i adlewyrchu defnydd pwysleisiol Carroll ohonynt.
I am grateful to Andrew Hawke for reading the proof of this edition of Roberts’ translation and helping to ensure that the text meets the needs of the modern reader; nevertheless responsibility for errors remains with me.   ’Rwy’n ddiolchgar i Andrew Hawke am ddarllen proflen o’r argraffiad hwn o waith Roberts ac am geisio sicrhau bod y tesun yn cwrdd ag anghenion y darllenydd modern; serch hynny myfi biau’r cyfrifoldeb am unrhyw wallau a erys.

 
HTML Michael Everson, Evertype, 73 Woodgrove, Portlaoise, R32 ENP6, Ireland, 2010-08-01

Copyright ©1993-2010 Evertype. All Rights Reserved